Teitl y ddeiseb: Gwneud i sefydliadau sector cyhoeddus Cymru adrodd ar allyriadau cwmpas 3 a’u cynnwys mewn targedau sero net Geiriad y ddeiseb: Dylid cynnwys
yr holl allyriadau sy’n gysylltiedig â buddsoddiadau
sector cyhoeddus yn nhargedau datgarboneiddio Llywodraeth Cymru
a’i gwneud yn orfodol i holl sefydliadau sector cyhoeddus
Cymru adrodd ar allyriadau buddsoddiadau (cwmpas 3).
Esboniad cryno
o allyriadau cwmpas 3. Mae cynnwys
rhai allyriadau cwmpas 3 o fewn y ffin weithredol ond eithrio
allyriadau yn anghyson â chyflawni sero net gwirioneddol
erbyn 2030 ac yn tanseilio ymdrechion datgarboneiddio’r
Llywodraeth. Gweler tudalen 14, tabl 3 yma. Drwy gynnwys pensiynau a buddsoddiadau yn nhargedau’r llywodraeth bydd gan y sector cyhoeddus yr hyblygrwydd i benderfynu drostynt eu hunain beth i’w wneud am yr allyriadau cwmpas 3 anuniongyrchol hyn heb eu hanwybyddu’n unig.
|
Mae allyriadau nwyon tŷ gwydr yn cael eu categoreiddio’n dri grŵp neu ‘Gwmpas’ gan yr offeryn cyfrifo rhyngwladol a ddefnyddir fwyaf, sef y Protocol Nwyon Tŷ Gwydr (GHG)Mae Cwmpas 1 yn ymdrin ag allyriadau uniongyrchol o ffynonellau a berchnogir neu a reolir. Mae Cwmpas 2 yn cwmpasu allyriadau anuniongyrchol o gynhyrchu trydan, ager, gwresogi ac awyru a ddefnyddir gan sefydliad. Mae Cwmpas 3 yn cynnwys yr holl allyriadau anuniongyrchol eraill sy'n deillio o weithgarwch sefydliad. Mae hyn yn cynnwys nwyddau a gwasanaethau a brynwyd, teithio busnes, gwaredu gwastraff, cludo a dosbarthu, buddsoddiadau ac asedau ar brydles.
Mae gan Gymru darged deddfwriaethol i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050. Ym mis Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Sero Net Cymru. Mae’r cynllun lleihau allyriadau statudol hwn yn cynnwys 123 o bolisïau a chynigion y llywodraeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf i gyflawni gostyngiad o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr ar draws pob sector, ac mae’n edrych ymlaen at y targed sero net erbyn 2050. Mae’n cynnwys yr uchelgais o gyflawni nod sero net cyfunol y sector cyhoeddus erbyn 2030, gan gwmpasu dros 780 o sefydliadau sector cyhoeddus yng Nghymru.
Nod Canllaw Adrodd Sero Net Sector Cyhoeddus Cymru Llywodraeth Cymru (a ddiweddarwyd ym mis Gorffennaf 2022) yw helpu'r sector cyhoeddus yng Nghymru i amcangyfrif ei ôl troed carbon net, gan gynnwys allyriadau uniongyrchol ac anuniongyrchol.
Mae Tabl 3 ar dudalen 16 yn amlinellu ffynonellau allyriadau Cwmpas 3 ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru:
§ Nwyddau a gwasanaethau a brynwyd;
§ Gweithgareddau i fyny’r gadwyn gyflenwi yn ymwneud â thanwydd ac ynni;
§ Cludo a dosbarthu i fyny’r gadwyn gyflenwi;
§ Gwastraff a gynhyrchir mewn gweithrediadau;
§ Teithio ar fusnes
§ Cymudo gweithwyr;
§ Asedau ar brydles i fyny’r gadwyn gyflenwi *;
§ Asedau ar brydles i lawr y gadwyn gyflenwi*;
§ Cludo a dosbarthu i lawr y gadwyn gyflenwi*;
§ Prosesu cynhyrchion a werthir*;
§ Diwedd oes cynhyrchion a werthwyd*;
§ (Rhanfreintiau); a
§ (Buddsoddiadau).
Mae ffynonellau mewn cromfachau wedi’u heithrio o adroddiadau sector cyhoeddus Cymru. Mae ffynonellau wedi'i nodi â * wedi’u heithrio’n rhannol o adroddiadau Sector Cyhoeddus Cymru ac mae’r canllaw yn cynghori y dylai sefydliadau gyfeirio at adrannau perthnasol y canllawiau i gael rhagor o gyfarwyddiadau.
Mae ymateb Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd, i’r ddeiseb hon yn nodi nad yw adrodd ar allyriadau gan awdurdodau cyhoeddus, er bod cefnogaeth dda i wneud hynny, yn orfodol ar hyn o bryd ond yn cael ei annog yn gryf, er enghraifft drwy’r Canllaw Adrodd Sero Net Sector Cyhoeddus Cymru y Llywodraeth.
Mae'n amlinellu'r ffin weithredol a datblygiad ar y cyd y canllaw adrodd ar gyfer proses adrodd newydd y sector cyhoeddus yn ystod gweithdy a oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o gyrff cyhoeddus amrywiol.
Mae’n nodi yn y lle cyntaf, mai’r nod yw canolbwyntio ar yr allyriadau sydd o dan reolaeth weithredol y sector cyhoeddus yn uniongyrchol, gan gynnwys Cwmpas 1 a 2, a’r rhan fwyaf o Gwmpas 3. Cafodd y canlyniadau cychwynnol eu cyd-gasglu a’u rhannu ar ffurf adroddiad yn gynharach eleni, sef Data Sero Net y Sector Cyhoeddus ac argymhellion.
Aeth y Gweinidog yn ei blaen i ddweud:
Nid oes gan y sector cyhoeddus reolaeth weithredol uniongyrchol dros lawer o'r penderfyniadau allweddol ynghylch pensiynau a buddsoddiadau. Rwy’n deall bod 8 prif gronfa ar draws llywodraeth leol sydd wedi cronni’r rhan fwyaf o’u buddsoddiadau, ac mae’r gronfa wedi cyflwyno datganiad newid hinsawdd / datgarboneiddio. Mae’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi ysgrifennu at gadeiryddion y cronfeydd hyn i’w hannog i fynd ymhellach ac yn gyflymach, ac wedi cwrdd â hwy, a chafwyd peth llwyddiant o ran ymrwymiad i weithio gyda’r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan ddod â hwy yn unol â thargedau sero-net cyfredol y sector cyhoeddus.
Nid yw mater penodol allyriadau Cwmpas 3 wedi’i ystyried yn y Senedd. Fodd bynnag, ar 25 Mai 2022 bu’r Senedd yn trafod cynnig a gyflwynwyd gan Jack Sargeant AS, ar ddatgarboneiddio pensiynau'r sector cyhoeddus. Roedd y cynnig, y cytunwyd arno, yn cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) mai Llywodraeth Cymru oedd y gyntaf yn y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd, gan gydnabod y bygythiad difrifol y mae newid yn yr hinsawdd yn ei achosi;
b) bod cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yn parhau i fuddsoddi mewn tanwydd ffosil ac, ers blynyddoedd lawer, mae ymgyrchwyr wedi annog cynlluniau i ddadfuddsoddi;
c) bod partneriaeth bensiwn Cymru wedi symud yn gyflym i dynnu buddsoddiad o ddaliadau Rwsia yn ôl a'i fod wedi symud oddi wrth lo o'r blaen, gan ddangos felly ei bod yn bosibl i gronfeydd pensiwn wneud y penderfyniadau hyn;
d) bod Aelodau o'r Senedd wedi cymryd y cam cyntaf i symud eu cronfeydd pensiwn eu hunain oddi wrth danwydd ffosil;
e) pe bai cynlluniau pensiwn y sector cyhoeddus yng Nghymru yn dadfuddsoddi, Cymru fyddai'r wlad gyntaf yn y byd i gyflawni hyn, gan ddangos i ddarparwyr cronfeydd bod angen creu cynhyrchion buddsoddi nad ydynt yn ymwneud á thanwydd ffosil.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector cyhoeddus i gytuno ar strategaeth i ddatgarboneiddio pensiynau erbyn 2030, gan sicrhau eu bod yn cyd-fynd â thargedau sero net presennol y sector cyhoeddus
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |